Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 25 Mehefin 2020
Amser:
13.30 -
16.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6384
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Helen Mary Jones AS (Cadeirydd dros dro) Mick Antoniw AS John Griffiths AS Carwyn Jones AS David Melding AS |
Tystion: |
Pauline Burt, Ffilm Cymru Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr, BBC Cymru Wales Mark Davyd, Music Venues Trust Owen Evans, S4C Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni, ITV Wales Gareth Williams, TAC Sara Pepper, Prifysgol Caerdydd |
Staff y Pwyllgor: |
Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Cafodd munud o dawelwch ei gynnal gan yr Aelodau i gofio Mohammad Asghar AS.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
1.2 Cadarnhaodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai David Melding AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith argyfwng COVID 19 ar y diwydiannau creadigol
2.1 Holodd yr Aelodau y tystion a ganlyn ynghylch Covid-19 a'i effaith ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru:
Sarah Pepper, Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd
Gareth Williams, Cadeirydd, TAC
Pauline Burt, Cyfarwyddwr, Ffilm Cymru
Mark Davyd, Prif Swyddog Gweithredol, Yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth
3 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith argyfwng COVID 19 ar ddarlledu yn y sector cyhoeddus
3.1 Holodd yr Aelodau y tystion a ganlyn am effaith Covid-19 ar ddarlledu yn y sector cyhoeddus yng Nghymru:
Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr, BBC Cymru
Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni, ITV Cymru
Owen Evans, Prif Weithredwr, S4C
4 Papurau i'w nodi
4.1 Gohebiaeth â Bauer Media ynghylch gorsaf radio Sain Abertawe
4.2 Nododd yr Aelodau ohebiaeth â Bauer Media ynghylch gorsaf radio Sain Abertawe
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
6 Ôl-drafodaeth breifat
6.1 Cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi adroddiad byr ar effaith argyfwng COVID 19 ar y diwydiannau creadigol